Loading

ChWEFROR 2021

Croeso i gylchlythyr mis Chwefror. Bydd y cylchlythyr yn cael ei anfon yn achlysurol gyda gwybodaeth am y gyfres ac am y canu mawl. Cofiwch ddod nôl yn gyson i'w ddarllen dros y mis gan ei fod yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd.

Chwefror 7fed

Yr wythnos yma, Lisa fydd yn crwydro Ynys Môn ac yn ymweld â rhai o Eglwysi harddaf yr ynys.

Emynau

Cape Seion, Llanrwst

Geiriau: 167 Ar fôr tymhestlog teithio ’rwyf

Tôn: 141 Penmachno

Capel Ebeneser Dyfed, Eglwyswrw

Geiriau: 615 O llanwa hwyliau d’Eglwys

Tôn: 515 Morning Light

Capel Tabernacl, Llannerchymedd 1988

Geiriau: 205 Dyma gariad fel y moroedd

Tôn: 169 Pennant

Capel Siloh, Chwilog

Geiriau: 377 Pwy yw hwn sy’n rhodio’r tonnau

Tôn: 308 St. Mabyn

Capel Hyfrydle, Caergybi

Geiriau: 740 Arglwydd Iesu, arwain f’enaid

Tôn: 600 In Memoriam

Chwefor 14eg

Nia fydd ar grwydr yn rhai o’r Llefydd Llonydd sy’n rhan o lwybr treftadaeth arbennig yng ngogledd Ceredigion yn dysgu mwy am bwysigrwydd cyfnod y Grawys yng nghalendr yr Eglwys.

Emynau

Capel Mynyddbach, Treboeth

Geiriau: 262 Mewn anialwch 'rwyf yn trigo

Tôn: 218 Hyfrydol

Capel Y Priordy, Caerfyrddin

Geiriau: 242 O doed dy deyrnas, nefol Dad

Tôn: 36 St. Clement

Capel Moreia, Dolwyddelan 1988

Geiriau: 198 Dyma Feibl annwyl Iesu

Tôn: 279 Converse

Capel Emaus, Bangor

Geiriau: 245 Yr Iesu a deyrnasa'n grwn

Tôn: 206 Rimington

Capel Siloh, Chwilog

Geiriau: 739 O fy Iesu bendigedig

Tôn: 599 Dim Ond Iesu

Chwefror 21ain

Ar y rhaglen, Lisa fydd yn Nyffryn Nantlle yn cwrdd â Karen Owen, rhywun sy’n gwneud gwaith arloesol yn yr ardal i arwain Capeli a chawn glywed sut mae pobl Penygroes yn cydweithio a chyd-dynnu i greu gobaith newydd i’w bro.

Emynau

Capel Yr Alltwen, Pontardawe

Geiriau: 323 Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb

Tôn: 266 Bryn Myrddin

Capel Mynydd Seion, Abergele

Geiriau: 787 Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano

Tôn: 639 Rhys

Eglwys Crist, Penygroes 1989

Geiriau: At bwy yr af yn nydd y ddrycin gref

Tôn: Derwen Las

Capel Y Tabernacl, Rhuthun

Geiriau: 21 Dyro inni fendith newydd

Tôn: 16 Caersalem

Eglwys Sant Teilo, Caerdydd

Geiriau: 794 Cristion bychan ydwy'n dilyn Iesu Grist

Tôn: 646 Cristion Bychan Ydwyf

Chwefror 28ain

Ymunwch a ni'r wythnos yma pan fyddwn yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Bydd Huw yn cerdded taith y pererin o berfeddion Ceredigion draw i’r arfordir ac ymlaen i waelod Sir Benfro, gan alw mewn ambell le sydd â chysylltiad agos a Dewi Sant a sydd hefyd yn agos iawn at ei galon.

Emynau

Capel Mynydd Seion, Abergele

Geiriau: 827 Cofia’n gwlad, Benllywydd tirion

Tôn: 62 Groeswen

Capel Pisga, Llandisilio

Geiriau: 832 Dysg imi garu Cymru

Tôn: 673 Efailwen

Sain Dunwyd

Geiriau: 751 Chwi bererinion glân

Tôn: 608 Kane

Capel Pisga, Llandisilio

Geiriau: 838 Arglwydd, bugail oesoedd daear

Tôn: 676 Henryd

Sain Dunwyd

Geiriau: 699 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn

Tôn: 575 Brynaber

Capel Pisga, Llandisilio

Geiriau: 852 Dros Gymru’n gwlad, O Dad, dyrchafwn

Tôn: 687 Finlandia

Oedfa

Dydd Sul, Chwefror 7fed

Ymunwch a ni ar gyfer Oedfa cyntaf Chwefror o dan arweiniad Melda Grantham.

Dydd Sul, Chwefror 14eg

Yr wythnos yma, bydd yr Oedfa o dan ofal Parchedig Enid Morgan.

Dydd Sul, Chwefror 21ain

Bydd yr Oedfa o dan ofal Parchedig Huw Dylan.

Dydd Sul, Chwefror 28ain

Ymunwch a ni bore Sul wrth i ni nodi Dydd Gŵyl Dewi o dan ofal y Parchedig Ddr Manon Ceridwen James.

Gwefannau Cymdeithasol